Rhif y ddeiseb: P-06-1927

Teitl y ddeiseb: Dod â "llosgi dan reolaeth" i ben yng Nghymru

Geiriad y ddeiseb:  Mae tân diweddar ar y Mynydd Mawr, Gwynedd, wedi tynnu sylw at y broblem enfawr o "losgi dan reolaeth". Cafodd y tân ei gynnau yn ystod y tymor a ganiateir (rhwng 1 Hydref a 31 Mawrth 31) er gwaethaf y tywydd sych a’r gwyntoedd cryfion diweddar, ac o gofio bod llawer o adar eisoes wedi dechrau nythu.
Disgrifiodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yr effaith drychinebus ar y mynydd. Mae'r mwg wedi creu trafferth i bobl leol, ac roedd criwiau o dde Cymru wedi gorfod dod i gynorthwyo hefyd.

Ar un adeg, effeithiodd y tân ar ardal o tua 100,000 metr sgwâr. Nid yw hyn yn ddigwyddiad unigryw.
Y llynedd, bu dros 2,000 o dannau glaswelltir yng Nghymru, ac roedd dros 75 y cant o’r rhain wedi eu cynnau yn fwriadol.

Mae'r tannau hyn yn:
–rhoi iechyd a diogelwch criwiau tân, a thrigolion ac eiddo lleol, yn y fantol
–peryglu bywydau pobl trwy ailgyfeirio ymdrech ac amser y gwasanaeth tân
–arwain at gost annerbyniol i'r trethdalwr – gall hyn fod yn gannoedd o filoedd o bunnoedd, yn ôl gwasanaeth tân Gogledd Cymru
–rhyddhau carbon a chreu mwg mewn cyfnod o argyfwng hinsawdd
–cael effaith ofnadwy ar ein hadar nythu a bywyd gwyllt arall fel y wiber, sydd yn barod mewn perygl, a hynny mewn argyfwng bioamrywiaeth. Yn draddodiadol, roedd y cyfnod rhwng 1 Hydref a 31 Mawrth yn oer a gwlyb yng Nghymru, ond erbyn hyn mae'r hinsawdd wedi newid, gyda’r tywydd mwyn yn newid y tymor nythu ac adfywiad bywyd gwyllt.  Mae'r RSPB yn mynnu bod llosgi mawndir ar yr ucheldiroedd yn dod i ben oherwydd y pryderon ynghylch cadwraeth a’r argyfwng hinsawdd.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddod â "llosgi dan reolaeth" i ben ar fyrder.

 

 

 


1.        Cefndir

Mae ‘llosgi dan reolaeth’, a elwir hefyd yn ‘llosgi rhagnodedig’, yn cyfeirio at ddull wedi’i gynllunio o ddefnyddio tân mewn ardal benodol.

Nod y prif fath o ‘losgi dan reolaeth’ a wneir yn y DU yw cael gwared ar lystyfiant rhostir a grug heb ei dorri.

Mae'r Cod Llosgi Grug a Glaswellt yng Nghymru 2008 yn nodi’r manteision a’r risgiau sydd ynghlwm wrth losgi rhostir: 

Ers miloedd o flynyddoedd bu tân yn rhan o ecoleg naturiol yr ucheldir a rhai amgylcheddau iseldirol, yn arbennig gweundir. Mae’n digwydd yn naturiol wedi i fellten daro ac mae hefyd yn un o’r dulliau mwyaf hynafol o reoli tir. Fe’i defnyddir at ddibenion amaethyddol, i reoli helfeydd, ac yn fwy diweddar i reoli cadwraeth natur. 

Defnyddir dulliau llosgi rheoledig ar ystod o gynefinoedd lled-naturiol, gan gynnwys rhostir a gweundir yn arbennig, ond hefyd ar rai migneint a gwlyptiroedd eraill (fel gwelyau cyrs), glaswelltir a phrysgdir. Gall llosgi cyfnodol wedi’i reoli a’i gynllunio’n ofalus fod o fudd i amaethyddiaeth, wrth reoli anifeiliaid hela ac i gadwraeth natur a’r amgylchedd ehangach.  Gall wella mynediad anifeiliaid sy’n pori at fwyd a chynyddu gwerth y bwyd hwnnw, a chreu amrywiaeth yn strwythur a chyfansoddiad planhigion sy’n addas ar gyfer amrywiaeth o fywyd gwyllt, gan gynnwys adar yr ucheldir megis cochiaid. 

Serch hynny mae’n ddull pwerus ac mae’n rhaid wrth grefft a dealltwriaeth i sicrhau na fydd yn creu mwy o ddrwg nag o les. Gall llosgi byrbwyll fod yn wrthgynhyrchiol: gall ddifrodi neu niweidio tir pori, planhigion, anifeiliaid, cynefinoedd a nodweddion hanesyddol gwerthfawr; addasu strwythur ffisegol, cyfansoddiad cemegol a hydroleg y pridd; effeithio ar ansawdd y dŵr ac amharu ar gymeriad y dirwedd. Mewn rhai amgylchiadau gall llosgihefyd fod yn beryglus, yn ddinistriol neu’n wastraff amser ac adnoddau. 

2.     Y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi tair dogfen syn ymwneud â llosgi dan reolaeth:

§    Cod Llosgi Grug a Glaswellt yng Nghymru 2008;

§    Cynllun Rheoli Llosgi yng Nghymru;

§    Cynllun Rheoli Llosgi yng Nghymru: Canllaw Technegol Ategol.

 

Ategir y rhain gan Reoliadau Llosgi Grug a Glaswellt etc. (Cymru) 2008 (“y Rheoliadau Llosgi”) .

2.1.          Cod Llosgi Grug a Glaswellt yng Nghymru 2008

Mae’r Cod wedi’i rannu’n ddwy ran: Yn Rhan 1 ceir crynodeb o’r gofynion cyfreithiol yn sgil y fersiwn ddiwygiedig o Reoliadau Llosgi Grug a Glaswellt etc. (Cymru) 2008  a deddfwriaeth arall. Yn Rhan 2, ceir argymhellion ar arfer da.

Mae’r Rheoliadau Llosgi yn rheoli’r weithred o losgi grug, gwair bras, rhedyn, eithin a Vaccinium (llus). Nid ydynt yn berthnasol i erddi preifat na gerddi rhandir. Mae’r rheolau canlynol yn berthnasol drwy gydol y flwyddyn:

§    Ni ddylid dechrau llosgi grug, glaswellt ac ati rhwng machluda chodiad haul;

§    Rhaid cael digon o bobl a chyfarpar wrth law drwy’r amser i reoli’r llosgi;

§    Dylid cymryd pob rhagofal rhesymol i atal anafiadau neu ddifrodi unigolion, anifeiliaid neu eiddo cyfagos;

§    Rhaid rhoi o leiaf 24 awr, ond dim mwy na saith diwrnod, o rybudd o’r bwriad i losgi mewn ysgrifen i berchnogion neu breswylwyr y tir dan sylw, a’r unigolion sy’n gyfrifol am dir cyfagos. Dylai’r rhybudd gynnwys dyddiadau, amser, lleoliad a maint y tir sy’n cael ei losgi;

§    Rhaid sicrhau Cynllun Rheoli Llosgi dilys sydd ar gael i’w archwilio gan swyddogion o Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gais ar gyfer pob llosgfa y bwriedir ei chynnal y tu allan i Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig;

§    Rhaid cyflwyno Cynllun Rheoli Llosgi hefyd ar gyfer llosgfa y bwriedir ei chynnal ar Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig neu safleoedd eraill dynodedig. Fodd bynnag, os oes cynllun wedi’i greu drwy gytundeb â Chyngor Cefn Gwlad Cymru neu gyrff dynodi eraill, gellir defnyddio’r cynllun hwnnw i gydymffurfio â’r Cod;

§    Mae’n bosibl y bydd angen cael caniatâd ffurfiol gan Cadw i losgi ar Heneb Gofrestredig.

O dan y Rheoliadau, ni chaniateir llosgi ond ar y dyddiadau canlynol:

§    1 Hydref - 31 Mawrth ar yr ucheldir;

§    1 Tachwedd - 15 Mawrth ym mhob man arall; ac

§    Ar adegau eraill gyda thrwydded na ellir ond ei chael dan amgylchiadau penodol iawn.

Nid oes angen trwydded i wneud gwaith llosgi o fewn y cyfnod llosgi dynodedig. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog tirfeddianwyr i roi gwybod iddynt am unrhyw losgiadau arfaethedig.

Rhaid cyflwyno ceisiadau ar gyfer trwyddedau i wneud gwaith llosgi yn y cyfnod cyfyngedig i Lywodraeth Cymru.

Bydd unrhyw un sy’n mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau Llosgi yn cyflawni trosedd o dan adran 20(2) o Ddeddf Ffermio’r Bryniau 1946.Gallai troseddwyr o’r fath fod yn agored i ddirwy o hyd at £1,000.

2.2.        Cynllun Rheoli Llosgi yng Nghymru

O dan y rheoliadau, mae’n ofynnol i reolwyr tir lenwi cynllun llosgi a'i ddiweddaru. Nid oes angen iddynt gyflwyno copi o’u cynllun ar ôl ei lenwi, ond rhaid iddynt sicrhau bod copi diweddar ar gael i’w archwilio gan swyddogion awdurdodedig. Nod y cynllun yw “datblygu ymagwedd tymor canolig i dymor hir (5+ mlynedd) ar gyfer rheoli tir drwy losgi, gan gynnwys asesu’r risgiau’n gysylltiedig â hynny”. Cyhoeddwyd canllaw technegol i gyd-fynd â’r cynllun, er mwyn cefnogi rheolwyr tir yn y broses o lunio eu cynlluniau. 

2.3.        Papur y Gweinidog

Mae papur y Gweinidog yn nodi bod y Rheoliadau presennol a’r Cod ategol, ym marn Llywodraeth Cymru, yn addas at y diben. Mae hefyd yn nodi, mewn amgylchiadau lle mae rheolwr tir yn mynd ati i losgi 'ardal dim llosgi' neu'n colli rheolaeth o losgi wedi'i gynllunio, gellid erlyn yn gyfreithiol neu godi cosbau sy’n gysylltiedig â'u cymhorthdal yn y Cynllun Taliad Sylfaenol.

Mae’n tynnu sylw at ddau brosiect y mae’n ymwneud â nhw sy’n gysylltiedig â thanau:

Gyda'r cynnydd yn nigwyddiadau tywydd eithafol a nifer y tanau sy'n digwydd ar draws tirwedd Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo camau sydd wedi'u cydlynu rhwng y gwasanaethau brys, cyrff statudol a chymunedau lleol, er mwyn ymateb i'r achosion hyn, hysbysu’r awdurdodau, a'u cofnodi, a thrwy wneud hynny helpu i fynd i'r afael ag arferion gwael a hyrwyddo newid ymddygiad. Mae Ymgyrch Dawns Glaw (Dawnsglaw) tasglu aml-asiantaeth, sy'n cynnwys y tri Gwasanaeth Tân ac Achub, Yr Heddlu, Cyfoeth Naturiol Cymru, Y Swyddfa Dywydd, Parciau Cenedlaethol, Taclo'r Tacle, Llywodraeth Cymru ac eraill, yn fenter sydd yn flaenllaw yn y dull hwn o weithredu.

Ar hyn o bryd rydym o blaid hyrwyddo dull partneriaeth fel prosiect Llethrau Llon yn hytrach nag adolygu'r rheoliadau presennol yr ydym yn credu sy'n addas i'w pwrpas wrth eu dilyn yn gywir. Mae Llethrau Llon (Llethraullon) yn rhaglen bartneriaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnig ateb natur i leihau'r risg o danau gwyllt, gan wella'r broses o adfer cynefinoedd ar ôl difrod tân, a diogelu priddoedd i leihau carbon sy'n cael ei ryddhau gan danau gwyllt. Bydd y gwaith yn sicrhau manteision ehangach ar gyfer gwydnwch ecosystemau, ansawdd aer a dŵr, gan wneud tirwedd y cymoedd yn fwy gwydn a gallu addasu'n well i'r newid yn yr hinsawdd.

3.     Y camau a gymerwyd gan Senedd Cymru

Nid yw ‘llosgi dan reolaeth’ yn fater sydd wedi cael ei drafod yn y Senedd.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.